Cell Caerffili/Blaenau Gwent http://cellflaencoed.nireblog.com Croeso i flog Cell Caerffili a Blaenau Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Wed, 18 Nov 2009 22:50:16 +0000 Cell Caerffili/Blaenau Gwent http://files.nireblog.com/blogs/cellflaencoed/gravatar.gif http://cellflaencoed.nireblog.com http://nireblog.com Rali 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd' http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/10/28/rali-chwyldro-newydd-yn-y-cymoedd http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/10/28/rali-chwyldro-newydd-yn-y-cymoedd Cafodd Cyfarfod Cyffredinol a Rali Blynyddol y Gymdeithas ei gynnal ym Merthyr ddydd Sadwrn diwethaf.

Cliciwch yma i weld fideos o areithiau Hywel Davies, Catrin Dafydd a Dafydd Wigley yn y Rali.

Comments

]]>
Wed, 28 Oct 2009 22:15:29 +0000
Llythyr Canfasiad Blynyddol Etholwyr 2010 http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/27/llythyr-canfasiad-blynyddol-etholwyr-2010 http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/27/llythyr-canfasiad-blynyddol-etholwyr-2010 Yn ystod y mis o'n hôl, cafodd preswylwyr Blaenau Gwent llythyrau ynglŷn â Chanfasiad Blynyddol Etholwyr 2010. Y peth da: Fe roedd y pecyn yn hollol ddwyieithog. Y peth drwg: Fe roeddent yn llawn o gamgymeriadau.

Fe gwynais i Dylan John, Swyddog Cofrestru Etholiadol (Glyn Ebwy). Ar ôl sbel, fe gefais lythyrau newydd ac ymholiadau oddi wrth Angela O'Leary (Angela.O'Leary@blaenau-gwent.gov.uk) o adran Wasanaethu Gyfreithiol â Chynhaliaeth Gorfforaethol. Fe ddywedodd y llythyr oddi wrth Angela y dilyn,

"Annwyl Mr. Wall. Amgaeaf y ddogfen ddiwygiedig a gafodd ei diwygio a'i gwirio gan ein cyfieithydd allanol o Gaerdydd. Diolch i chi am sylwi ar y camgymeriadau anffodus yn y gwreiddiol. Angela O'Leary."

Y mae'n edrych fel Blaenau Gwent yn troi deilen newydd!

Comments

]]>
Sun, 27 Sep 2009 17:11:51 +0000
Baneri Unig Iaith Saesneg yn Abertyleri http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/25/baneri-unig-iaith-saesneg-yn-abertyleri http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/25/baneri-unig-iaith-saesneg-yn-abertyleri Codwyd baneri unig iaith Saesneg yn ystod wythnos diwethaf yn Abertyleri i gyd-fynd â'i datblygiad o'r dref yn ymyl yr Orsaf Dân a Thŷ'r Ddol. Y mae hyn yn drosedd o Bolisi'r Iaith Gymraeg Blaenau Gwent. Cysylltais ag Alan Burkitt (Alan.Burkitt@blaenau-gwent.gov.uk), Swyddog Cyfartalion, a chysylltodd ef ag Karin Lamb (karin.lamb@blaenau-gwent.gov.uk) Rheolwraig Ganol y Dref ar gyfer Abertyleri, Brynmawr, a'r Blaenau. Anfonais gopïau o'r e-byst hefyd at Gareth Smith (gareth.smith@byig-wlb.org.uk) o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd yn gwneud yn siŵr y caiff polisïau iaith eu dilyn.

Dywedodd Karin y nad oedd hi'n ymwybodol o'r polisi, a chadarnheuodd y caiff baneri newydd eu codi yn fuan (yn y gaeaf), a byddent yn ddwyieithog. Dywedodd y Bwrdd nad oeddynt eisiau i Gyngor Blaenau Gwent gymryd y baneri cyfredol i lawr, oherwydd beth ddywedodd Karin.

Er bod yr ymateb hwn yn iawn, nad yw'n datrys y broblem o rywun yn anwybyddu dweud wrth Karin ynghylch y polisïau! Gobeithio byddent yn gwella eu hunain yn y dyfodol.

Comments

]]>
Fri, 25 Sep 2009 16:46:11 +0000
Galwad ffôn ddiddorol http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/23/galwad-ffon-ddiddorol http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/23/galwad-ffon-ddiddorol Cefais alwad ffôn ddiddorol y bore 'ma. Mae Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Caerffili am gwrdd â fi, fel cynrychiolydd y Gymdeithas yn yr ardal, i drafod yr iaith Gymraeg yn y Bwrdeistref Sirol. Mae hwn yn gam positif iawn, rwy'n meddwl. Rwy'n dost ar hyn o bryd, ond ar ôl i fi wella, wna' i drefnu dyddiad i gwrdd â fe. Os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech i fi ei drafod gyda fe, rhowch wybod: barry@cymdeithas.org

Comments

]]>
Wed, 23 Sep 2009 15:27:16 +0000
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/18/rali-flynyddol-cymdeithas-yr-iaith-gymraeg http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/18/rali-flynyddol-cymdeithas-yr-iaith-gymraeg

Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Chwyldro Newydd yn y Cymoedd

2pm, Hydref 24ain, 2009

Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful,

Dafydd Wigley | Hywel Davies | Catrin Dafydd

Mae'r Rali yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith sy'n cael ei gynnal yn yr un lleoliad rhwng 10:30am-1pm

Croeso i bawb

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sioned Haf 02920 486469 / sioned.haf@cymdeithas.org

Comments

]]>
Fri, 18 Sep 2009 21:22:17 +0000
Ein cyfarfod cychwynnol http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/15/ein-cyfarfod-cychwynnol http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/15/ein-cyfarfod-cychwynnol

Mae'n biti nad oedd mwy o bobl yno nos Lun, ond yn anffodus roedd nifer ohonom (o leiaf 6) yn bwriadu mynd ond, am resymau gwahanol, ddim yn gallu mynd yn y diwedd (ffliw moch, yn fy achos i).

Bydd rhaid i ni drefnu rhywbeth - efallai gallwn ni gwrdd rhywbryd yn y dyfodol agos pan mae pawb wedi gwella / ddim yn gweithio / yn rhydd i ddod, a threfnu rhywbeth cymdeithasol yn ogystal â threfnu i fynd lan i'r Cyfarfod Cyffredinol ym Merthyr mis nesaf.

Fi yw Cadeirydd newydd y Gell, felly os oes unrhyw syniadau gyda chi, anfonwch nhw ataf i (barry *AT* cymdeithas *DOT* org). Os ydych chi'n ddysgwr/ddysgwraig neu heb ddigon o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg eto, mae croeso ichi gysylltu â mi yn Saesneg. Pwy a ŵyr - efallai gallwn ni drefnu rhywbeth i ddysgwyr hefyd.

Barry.

(Cofnodion y cyfarfod yn dilyn.)

 

Cofnodion Cell Caerffili/ Blaenau Gwent

14/9/09

 

Presennol: Helen Greenwood, Jamie Bevan, Sioned Haf

Ymddiheiriadau: Barry Taylor, Glenn Wall, Ben Screen, Iestyn ap Rhobert

  

  1. Etholwyd Barry Taylor fel Cadeirydd y Gell. Bydd angen i Barry gysylltu a Sioned er mwyn cael ebost Cymdeithas wedi ei baratoi

 

  1. Trafodwyd efallai bod y gell yn ceisio gorchuddio ardal daearyddol rhy fawr, ac y dylid ystyried gael mwy nag un gell i bob ardal?

 

  1. Trafodwyd bod angen i’r gell newydd hon ganolbwyntio yn ddechreuol ar hysbysebu digwyddiadau mwyaf diweddar yn yr ardal sef: Gig y Rhanbarth yn Clwb y Bont, Pontypridd ar yr 18fed o Fedi a Cyfarfod Cyffredinol a Rali Blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Merthyr Tudful ar y 24ain o Hydref. Awgrymwyd bod y gell yn gallu trefnu bws mini i gario pobol â diddordeb i Ferthyr am y dydd.

 

  1. Awgrymwyd y dylid drefnu ‘Noson Gymdeithasol’ i siaradwyr y Gymraeg yn ardal y Coed Duon. All hwn fod yn cam cyntaf i ffeindio cefnogwyr yn yr ardal (ac yn llai  o faich na cael ‘cyfarfod cell’).  Gellir ei hysbysebu ar wefan y Cyngor, gwefan Cenedlaethol y Gymdeithas, South Wales Argus ayyb..

 

  1. Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Glyn Ebwy y flwyddyn nesaf, mae angen grŵp o bobol o’r ardal lleol all wirfoddoli ar Grŵp Adloniant y Gymdeithas (yn trefnu gigs am wythnos gyfan yr Eisteddfod). Angen hysbysebu hyn yn rhyw fodd.

 

  1. Penderfynnwyd bod angen cynrychiolaeth o fewn ysgolion yr ardal. Sioned i gysylltu yn gyntaf gyda Ysgol Cwm Rhymni a Gwynllyw er mwyn trefnu mynd mewn i gael gweithdai cyn y Cyfarfod Cyffredinol (Hydref 24ain)

  

Cyfarfod nesaf: ???

  

Comments

]]>
Tue, 15 Sep 2009 23:31:58 +0000
Cyfarfod nos Lun yma http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/12/cyfarfod-nos-lun-yma http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/12/cyfarfod-nos-lun-yma Cynhelir cyfarfod cychwynnol Cell Caerffili a Blaenau Gwent ar nos Lun y 14eg o Fedi yn y Sirhowy (Wetherspoon’s), Stryd Fawr, Y Coed Duon NP12 1BA am 7pm.

Mae map o'r venue yma.

Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eto, cewch ymaelodi ar ein gwefan: http://cymdeithas.org/ymuno/

Comments

]]>
Sat, 12 Sep 2009 20:47:32 +0000
Gig yng Nghlwb y Bont, Pontypridd 18-9-2009 http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/02/gig-yng-nghlwb-y-bont-pontypridd-18-9-2009 http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/09/02/gig-yng-nghlwb-y-bont-pontypridd-18-9-2009 Gig ym Mhontypridd

Comments

]]>
Wed, 02 Sep 2009 16:28:20 +0000
Cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/cwyno-am-ddiffyg-gwasanaeth-cymraeg http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/cwyno-am-ddiffyg-gwasanaeth-cymraeg Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod, mae cynghorau Blaenau Gwent a Chaerffili yn ddrwg-enwog am beidio â chadw at eu Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain. Rwyf wedi gorfod cwyno i Gyngor Blaenau Gwent (a chwyno amdanyn nhw i Fwrdd yr Iaith Gymraeg) sawl tro.

Os ydych chi'n cael problem gyda'r Cyngor, boed yn ddiffyg gwasanaethau Cymraeg neu unrhyw esiampl arall o'r cyngor yn ffaelu cadw at eu Cynllun Iaith Gymraeg, dyma sut i gwyno.

Yn gyntaf, dyma Cynlluniau Iaith Gymraeg y ddau gyngor:

Blaenau Gwent

Caerffili

Os oes gennych chi gwyn i'w gwneud, cliciwch yma i gwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

(Mae Cynlluniau Iaith Gymraeg sawl sefydliad arall ar gael yma.)

- Barry

Comments

]]>
Fri, 28 Aug 2009 18:56:34 +0000
Newidiwyd Arwydd Anghywir yn Abertyleri http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/newidiwyd-arwydd-anghywir-yn-abertyleri http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/newidiwyd-arwydd-anghywir-yn-abertyleri Ar ôl cysylltu â rhywun yn y Bwrdd Iechyd Lleol yn Abertyleri, newidiwyd arwydd anghywir ar bwys y Llyfrgell yn Abertyleri o "Bwrdd Lechyd Lleol" i "Bwrdd Iechyd Lleol."

Arwydd cyn newid

Llun o'r arwydd newydd i ddod yn fuan.

Comments

]]>
Fri, 28 Aug 2009 14:49:22 +0000
Cofnodion Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/cofnodion-cyfarfod-rhanbarth-morgannwg-gwent http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/cofnodion-cyfarfod-rhanbarth-morgannwg-gwent Dyma'r cofnodion ar gyfer y cyfarfod cyntaf a gynhelir yng Nghlwb y Bont, Pont y Pridd, ar gyfer Rhanbarth Morgannwg Gwent.

* Cofnodion Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg Gwent (23/7/09)

Comments

]]>
Fri, 28 Aug 2009 14:46:12 +0000
Croeso! http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/croeso http://cellflaencoed.nireblog.com/post/2009/08/28/croeso Croeso i ti i Gell Gymdeithas yr Iaith Gymraeg Blaenau Gwent a'r Coed Duon. Penderfynwyd i greu cell dros Flaenau Gwent a'r Coed Duon ym mis Gorffennaf 2009, gyda chymorth y Gymdeithas.

Bwriadau'r blog hwn yw,
* Rhoi gwybodaeth i ti am ddigwyddiadau'r Gymdeithas
* Rhoi gwybodaeth i ti am ddigwyddiadau ym Mlaenau Gwent a'r Coed Duon (yn Gymraeg ac yn Saesneg weithiau)
* Sicrhau y Gymraeg ym Mlaenau Gwent a'r Coed Duon
* Ymdrechu'r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a'r Coed Duon

Os wyt ti am gysylltu â ni, wedyn clicia ar "Cysylltu â mi" ar ochr dde'r sgrin, neu anfona e-bost at cellflaencoed@hotmail.com

Rwyt ti'n gallu cysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw beth dros y Gymraeg - diffyg yr iaith ym Mlaenau Gwent neu'r Coed Duon, arwyddion unig iaith Saesneg, gwasanaeth rwyt ti wedi cael yn Gymraeg (yn dda neu'n ddrwg), ayyb.

Diolch am edrych, felly, a bydd rhagor o fanylion i ddod yn fuan.

Comments

]]>
Fri, 28 Aug 2009 14:31:55 +0000