Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Baneri Unig Iaith Saesneg yn Abertyleri

cellflaencoed @ 16:46

Codwyd baneri unig iaith Saesneg yn ystod wythnos diwethaf yn Abertyleri i gyd-fynd â'i datblygiad o'r dref yn ymyl yr Orsaf Dân a Thŷ'r Ddol. Y mae hyn yn drosedd o Bolisi'r Iaith Gymraeg Blaenau Gwent. Cysylltais ag Alan Burkitt (Alan.Burkitt@blaenau-gwent.gov.uk), Swyddog Cyfartalion, a chysylltodd ef ag Karin Lamb (karin.lamb@blaenau-gwent.gov.uk) Rheolwraig Ganol y Dref ar gyfer Abertyleri, Brynmawr, a'r Blaenau. Anfonais gopïau o'r e-byst hefyd at Gareth Smith (gareth.smith@byig-wlb.org.uk) o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd yn gwneud yn siŵr y caiff polisïau iaith eu dilyn.

Dywedodd Karin y nad oedd hi'n ymwybodol o'r polisi, a chadarnheuodd y caiff baneri newydd eu codi yn fuan (yn y gaeaf), a byddent yn ddwyieithog. Dywedodd y Bwrdd nad oeddynt eisiau i Gyngor Blaenau Gwent gymryd y baneri cyfredol i lawr, oherwydd beth ddywedodd Karin.

Er bod yr ymateb hwn yn iawn, nad yw'n datrys y broblem o rywun yn anwybyddu dweud wrth Karin ynghylch y polisïau! Gobeithio byddent yn gwella eu hunain yn y dyfodol.


digg it | del.icio.us

Sylwadau(4) »

  • Barry — 2009-09-26 - 12:33:38 GMT 0

    Gobeithio - ond paid â dal dy anal!

  • Glenn — 2009-09-27 - 16:48:38 GMT 0

    Ie, dwi'n gwybod yn union! Wel, mae Kari wedi dweud bydd y baneri newydd yn ddwyieithog, ac mae gen i'r e-byst i brofi hynny. Felly, os nad ydynt yn ddwyieithog, felly codaf y fater yn bellach efo Gareth!

  • Rhys — 2009-10-09 - 13:18:28 GMT 0

    Dyna esgus sâl!

  • Glenn — 2009-10-12 - 21:52:16 GMT 0

    Ie Rhys, dwi'n gwybod. Rhaid inni ddangos i BG ein bod ni yma, ac mae angen arnynt gadw at eu Polisi Iaith eu hunain!

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>


Amdana i

Categorïau

Tagiau

Fy Nhagiau

Cynghreirio

  • RSS
  • RSS Sylwadau
  • Ychwanegu Llif at: