Cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg
cellflaencoed @ 18:56
Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod, mae cynghorau Blaenau Gwent a Chaerffili yn ddrwg-enwog am beidio â chadw at eu Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain. Rwyf wedi gorfod cwyno i Gyngor Blaenau Gwent (a chwyno amdanyn nhw i Fwrdd yr Iaith Gymraeg) sawl tro.
Os ydych chi'n cael problem gyda'r Cyngor, boed yn ddiffyg gwasanaethau Cymraeg neu unrhyw esiampl arall o'r cyngor yn ffaelu cadw at eu Cynllun Iaith Gymraeg, dyma sut i gwyno.
Yn gyntaf, dyma Cynlluniau Iaith Gymraeg y ddau gyngor:
Os oes gennych chi gwyn i'w gwneud, cliciwch yma i gwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
(Mae Cynlluniau Iaith Gymraeg sawl sefydliad arall ar gael yma.)
- Barry

digg it
del.icio.us
Dim sylwadau hyd yma. »
Ymateb: