Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM


Rali 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'

Cafodd Cyfarfod Cyffredinol a Rali Blynyddol y Gymdeithas ei gynnal ym Merthyr ddydd Sadwrn diwethaf.

Cliciwch yma i weld fideos o areithiau Hywel Davies, Catrin Dafydd a Dafydd Wigley yn y Rali.

barry2009-10-28 GTM 0 @ 22:15
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Llythyr Canfasiad Blynyddol Etholwyr 2010

Yn ystod y mis o'n hôl, cafodd preswylwyr Blaenau Gwent llythyrau ynglŷn â Chanfasiad Blynyddol Etholwyr 2010. Y peth da: Fe roedd y pecyn yn hollol ddwyieithog. Y peth drwg: Fe roeddent yn llawn o gamgymeriadau.

Fe gwynais i Dylan John, Swyddog Cofrestru Etholiadol (Glyn Ebwy). Ar ôl sbel, fe gefais lythyrau newydd ac ymholiadau oddi wrth Angela O'Leary (Angela.O'Leary@blaenau-gwent.gov.uk) o adran Wasanaethu Gyfreithiol â Chynhaliaeth Gorfforaethol. Fe ddywedodd y llythyr oddi wrth Angela y dilyn,

"Annwyl Mr. Wall. Amgaeaf y ddogfen ddiwygiedig a gafodd ei diwygio a'i gwirio gan ein cyfieithydd allanol o Gaerdydd. Diolch i chi am sylwi ar y camgymeriadau anffodus yn y gwreiddiol. Angela O'Leary."

Y mae'n edrych fel Blaenau Gwent yn troi deilen newydd!

cellflaencoed2009-09-27 GTM 0 @ 17:11
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Baneri Unig Iaith Saesneg yn Abertyleri

Codwyd baneri unig iaith Saesneg yn ystod wythnos diwethaf yn Abertyleri i gyd-fynd â'i datblygiad o'r dref yn ymyl yr Orsaf Dân a Thŷ'r Ddol. Y mae hyn yn drosedd o Bolisi'r Iaith Gymraeg Blaenau Gwent. Cysylltais ag Alan Burkitt (Alan.Burkitt@blaenau-gwent.gov.uk), Swyddog Cyfartalion, a chysylltodd ef ag Karin Lamb (karin.lamb@blaenau-gwent.gov.uk) Rheolwraig Ganol y Dref ar gyfer Abertyleri, Brynmawr, a'r Blaenau. Anfonais gopïau o'r e-byst hefyd at Gareth Smith (gareth.smith@byig-wlb.org.uk) o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sydd yn gwneud yn siŵr y caiff polisïau iaith eu dilyn.

Dywedodd Karin y nad oedd hi'n ymwybodol o'r polisi, a chadarnheuodd y caiff baneri newydd eu codi yn fuan (yn y gaeaf), a byddent yn ddwyieithog. Dywedodd y Bwrdd nad oeddynt eisiau i Gyngor Blaenau Gwent gymryd y baneri cyfredol i lawr, oherwydd beth ddywedodd Karin.

Er bod yr ymateb hwn yn iawn, nad yw'n datrys y broblem o rywun yn anwybyddu dweud wrth Karin ynghylch y polisïau! Gobeithio byddent yn gwella eu hunain yn y dyfodol.

cellflaencoed2009-09-25 GTM 0 @ 16:46
Darllen/Ychwanegu Sylwadau (4) digg it | del.icio.us

Galwad ffôn ddiddorol

Cefais alwad ffôn ddiddorol y bore 'ma. Mae Swyddog Iaith Gymraeg Cyngor Caerffili am gwrdd â fi, fel cynrychiolydd y Gymdeithas yn yr ardal, i drafod yr iaith Gymraeg yn y Bwrdeistref Sirol. Mae hwn yn gam positif iawn, rwy'n meddwl. Rwy'n dost ar hyn o bryd, ond ar ôl i fi wella, wna' i drefnu dyddiad i gwrdd â fe. Os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech i fi ei drafod gyda fe, rhowch wybod: barry@cymdeithas.org

barry2009-09-23 GTM 0 @ 15:27
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Chwyldro Newydd yn y Cymoedd

2pm, Hydref 24ain, 2009

Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful,

Dafydd Wigley | Hywel Davies | Catrin Dafydd

Mae'r Rali yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith sy'n cael ei gynnal yn yr un lleoliad rhwng 10:30am-1pm

Croeso i bawb

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sioned Haf 02920 486469 / sioned.haf@cymdeithas.org

barry2009-09-18 GTM 0 @ 21:22
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Ein cyfarfod cychwynnol

Mae'n biti nad oedd mwy o bobl yno nos Lun, ond yn anffodus roedd nifer ohonom (o leiaf 6) yn bwriadu mynd ond, am resymau gwahanol, ddim yn gallu mynd yn y diwedd (ffliw moch, yn fy achos i).

Bydd rhaid i ni drefnu rhywbeth - efallai gallwn ni gwrdd rhywbryd yn y dyfodol agos pan mae pawb wedi gwella / ddim yn gweithio / yn rhydd i ddod, a threfnu rhywbeth cymdeithasol yn ogystal â threfnu i fynd lan i'r Cyfarfod Cyffredinol ym Merthyr mis nesaf.

Fi yw Cadeirydd newydd y Gell, felly os oes unrhyw syniadau gyda chi, anfonwch nhw ataf i (barry *AT* cymdeithas *DOT* org). Os ydych chi'n ddysgwr/ddysgwraig neu heb ddigon o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg eto, mae croeso ichi gysylltu â mi yn Saesneg. Pwy a ŵyr - efallai gallwn ni drefnu rhywbeth i ddysgwyr hefyd.

Barry.

(Cofnodion y cyfarfod yn dilyn.)

Darllen gweddill fy mhost

barry2009-09-15 GTM 0 @ 23:31
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Cyfarfod nos Lun yma

Cynhelir cyfarfod cychwynnol Cell Caerffili a Blaenau Gwent ar nos Lun y 14eg o Fedi yn y Sirhowy (Wetherspoon’s), Stryd Fawr, Y Coed Duon NP12 1BA am 7pm.

Mae map o'r venue yma.

Os nad ydych yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eto, cewch ymaelodi ar ein gwefan: http://cymdeithas.org/ymuno/

barry2009-09-12 GTM 0 @ 20:47
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Gig yng Nghlwb y Bont, Pontypridd 18-9-2009

Gig ym Mhontypridd

barry2009-09-02 GTM 0 @ 16:28
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Cwyno am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg

Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod, mae cynghorau Blaenau Gwent a Chaerffili yn ddrwg-enwog am beidio â chadw at eu Cynlluniau Iaith Gymraeg eu hunain. Rwyf wedi gorfod cwyno i Gyngor Blaenau Gwent (a chwyno amdanyn nhw i Fwrdd yr Iaith Gymraeg) sawl tro.

Os ydych chi'n cael problem gyda'r Cyngor, boed yn ddiffyg gwasanaethau Cymraeg neu unrhyw esiampl arall o'r cyngor yn ffaelu cadw at eu Cynllun Iaith Gymraeg, dyma sut i gwyno.

Yn gyntaf, dyma Cynlluniau Iaith Gymraeg y ddau gyngor:

Blaenau Gwent

Caerffili

Os oes gennych chi gwyn i'w gwneud, cliciwch yma i gwyno i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

(Mae Cynlluniau Iaith Gymraeg sawl sefydliad arall ar gael yma.)

- Barry

cellflaencoed2009-08-28 GTM 0 @ 18:56
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us

Newidiwyd Arwydd Anghywir yn Abertyleri

Ar ôl cysylltu â rhywun yn y Bwrdd Iechyd Lleol yn Abertyleri, newidiwyd arwydd anghywir ar bwys y Llyfrgell yn Abertyleri o "Bwrdd Lechyd Lleol" i "Bwrdd Iechyd Lleol."

Arwydd cyn newid

Llun o'r arwydd newydd i ddod yn fuan.

cellflaencoed2009-08-28 GTM 0 @ 14:49 Tagiau:
Darllen/Ychwanegu Sylwadau digg it | del.icio.us


Amdana i

Sylwadau

Categorïau

Tagiau

Fy Nhagiau

Cysylltiadau

Cynghreirio

  • RSS
  • RSS Sylwadau
  • Ychwanegu Llif at: